Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch.

19. Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd.

20. Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”

21. “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD,‘atebaf y nef, ac etyb hithau y ddaear;

22. etyb y ddaear yr ŷd, y gwin a'r olew,ac atebant hwythau Jesreel;

23. ac fe'i heuaf i mi fy hun yn y tir.Gwnaf drugaredd â Lo-ruhama;dywedaf wrth Lo-ammi, “Fy-mhobl wyt ti”,a dywed yntau, “Fy Nuw”.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2