17. symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau.
18. Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch.
19. Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd.
20. Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”
21. “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD,‘atebaf y nef, ac etyb hithau y ddaear;
22. etyb y ddaear yr ŷd, y gwin a'r olew,ac atebant hwythau Jesreel;