Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 12:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae Effraim yn bugeilio gwynt,ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd;amlhânt dwyll a thrais;gwnânt gytundeb ag Asyria,a dygant olew i'r Aifft.

2. Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda;fe gosba Jacob yn ôl ei ffyrdd,a thalu iddo yn ôl ei weithredoedd.

3. Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd,ac wedi iddo dyfu ymdrechodd â Duw.

4. Ymdrechodd â'r angel a gorchfygu;wylodd a cheisiodd ei ffafr.Ym Methel y cafodd ef,a siarad yno ag ef—

5. ARGLWYDD Dduw y lluoedd,yr ARGLWYDD yw ei enw.

6. A thithau, trwy nerth dy Dduw, dychwel,cadw deyrngarwch a barn,a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.

7. Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrusyn caru gorthrymu.

8. Dywedodd Effraim, “Yn wir, rwy'n gyfoethog,ac enillais olud;yn fy holl enillion ni cheirna drygioni na phechod.”

9. “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd o wlad yr Aifft;gwnaf iti eto drigo mewn pebyll,fel yn nyddiau'r ŵyl sefydlog.

10. “Lleferais wrth y proffwydi;ac amlheais weledigaethaua dangos gwers trwy'r proffwydi.

11. Am fod eilunod yn Gilead,pethau cwbl ddiddim;am fod aberthu teirw yn Gilgal,bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrigar rychau'r meysydd.”

12. Ffodd Jacob i dir Aram;gwasanaethodd Israel am wraig;am wraig y cadwodd ddefaid.

13. Trwy broffwyd y dygodd yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft,a thrwy broffwyd y cadwyd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 12