Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 10:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Heuwch gyfiawnder,a byddwch yn medi ffyddlondeb;triniwch i chwi fraenar;y mae'n bryd ceisio'r ARGLWYDD,iddo ddod a glawio cyfiawnder arnoch.

13. “Buoch yn aredig drygioni,yn medi anghyfiawnder,ac yn bwyta ffrwyth celwydd.“Am iti ymddiried yn dy ffordd,ac yn nifer dy ryfelwyr,

14. fe gwyd terfysg ymysg dy bobl,a dinistrir dy holl amddiffynfeydd,fel y dinistriwyd Beth-arbel gan Salman yn nydd rhyfel,a dryllio'r fam gyda'i phlant.

15. Felly y gwneir i chwi, Bethel,oherwydd eich drygioni mawr;gyda'r wawr torrir brenin Israel i lawr.”

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 10