Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 3:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. y mae dy fwa wedi ei ddarparua'r saethau'n barod i'r llinyn.SelaYr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd;

10. pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir.Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen;tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.

11. Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle,rhag fflachiau dy saethau cyflym,rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.

12. Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear,ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.

13. Ei allan i waredu dy bobl,i waredu dy eneiniog;drylli dŷ'r drygionus i'r llawr,a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig.Sela

14. Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyra ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru,fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel.

15. Pan sethri'r môr â'th feirch,y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.

16. Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd,cryna fy ngwefusau gan y sŵn;daw pydredd i'm hesgyrn,a gollwng fy nhraed danaf;disgwyliaf am i'r dydd blinwawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom.

17. Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo,ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth;er i'r cynhaeaf olew ballu,ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd;er i'r praidd ddarfod o'r gorlan,ac er nad oes gwartheg yn y beudai;

18. eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD,a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.

19. Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth;gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig,a phâr imi rodio uchelfannau. I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 3