Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 3:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle,rhag fflachiau dy saethau cyflym,rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.

12. Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear,ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.

13. Ei allan i waredu dy bobl,i waredu dy eneiniog;drylli dŷ'r drygionus i'r llawr,a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig.Sela

14. Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyra ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru,fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel.

15. Pan sethri'r môr â'th feirch,y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.

16. Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd,cryna fy ngwefusau gan y sŵn;daw pydredd i'm hesgyrn,a gollwng fy nhraed danaf;disgwyliaf am i'r dydd blinwawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom.

17. Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo,ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth;er i'r cynhaeaf olew ballu,ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd;er i'r praidd ddarfod o'r gorlan,ac er nad oes gwartheg yn y beudai;

18. eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD,a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.

19. Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth;gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig,a phâr imi rodio uchelfannau. I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 3