Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant,er mwyn gosod ei nyth yn uchel,a'i waredu ei hun o afael blinder.

10. Cynlluniaist warth i'th dŷ dy huntrwy dorri ymaith bobloedd lawer,a pheryglaist dy einioes dy hun.

11. Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur,ac etyb trawst o'r gwaith coed.

12. Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed,ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder.

13. Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd y daw hyn:fod pobloedd yn llafurio i ddim ond tân,a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl?

14. Oherwydd llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD,fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr.

15. Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid,ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni.

16. Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant.Yf dithau nes y byddi'n simsan.Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD,a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 2