Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid,ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.”

5. Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal;y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol,ac fel marwolaeth yn anniwall,yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hunac yn cynnull ato'r holl bobloedd.

6. Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn,ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud,“Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo,ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr.”

7. Oni chyfyd dy echwynwyr yn sydyn,ac oni ddeffry'r rhai sy'n dy ddychryn,a thithau'n syrthio'n ysglyfaeth iddynt?

8. Am i ti dy hun ysbeilio cenhedloedd lawer,bydd gweddill pobloedd y byd yn dy ysbeilio di,o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tira'r ddinas a'i holl drigolion.

9. Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant,er mwyn gosod ei nyth yn uchel,a'i waredu ei hun o afael blinder.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 2