Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Atebodd yr ARGLWYDD fi:“Ysgrifenna'r weledigaeth,a gwna hi'n eglur ar lechen,fel y gellir ei darllen wrth redeg;

3. oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser—daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball.Yn wir nid oeda; disgwyl amdani,oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.

4. Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid,ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.”

5. Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal;y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol,ac fel marwolaeth yn anniwall,yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hunac yn cynnull ato'r holl bobloedd.

6. Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn,ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud,“Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo,ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr.”

7. Oni chyfyd dy echwynwyr yn sydyn,ac oni ddeffry'r rhai sy'n dy ddychryn,a thithau'n syrthio'n ysglyfaeth iddynt?

8. Am i ti dy hun ysbeilio cenhedloedd lawer,bydd gweddill pobloedd y byd yn dy ysbeilio di,o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tira'r ddinas a'i holl drigolion.

9. Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant,er mwyn gosod ei nyth yn uchel,a'i waredu ei hun o afael blinder.

10. Cynlluniaist warth i'th dŷ dy huntrwy dorri ymaith bobloedd lawer,a pheryglaist dy einioes dy hun.

11. Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur,ac etyb trawst o'r gwaith coed.

12. Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed,ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 2