Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd y daw hyn:fod pobloedd yn llafurio i ddim ond tân,a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl?

14. Oherwydd llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD,fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr.

15. Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid,ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni.

16. Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant.Yf dithau nes y byddi'n simsan.Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD,a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 2