Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 1:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Dônt i gyd i dreisio,a bydd dychryn o'u blaen;casglant gaethion rif y tywod;

10. gwawdiant frenhinoedda dirmygant arweinwyr;dirmygant bob amddiffynfa,a gosod gwarchae i'w meddiannu.

11. Yna rhuthrant heibio fel gwynt—dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth.”

12. Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD,fy Nuw sanctaidd na fyddi farw?O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn;O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 1