Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 1:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD,fy Nuw sanctaidd na fyddi farw?O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn;O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.

13. Ti, sydd â'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg,ac na elli oddef camwri,pam y goddefi bobl dwyllodrus,a bod yn ddistaw pan fydd y drygionusyn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?

14. Pam y gwnei bobl fel pysgod y môr,fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli?

15. Coda hwy i fyny â bach, bob un ohonynt,a'u dal mewn rhwydau,a'u casglu â llusgrwydau;yna mae'n llawenhau ac yn gorfoleddu,

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 1