Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 1:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth.

2. Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth,a thithau heb wrando,ac y llefaf arnat, “Trais!”a thithau heb waredu?

3. Pam y peri imi edrych ar ddrygioni,a gwneud imi weld trallod?Anrhaith a thrais sydd o'm blaen,cynnen a therfysg yn codi.

4. Am hynny, â'r gyfraith yn ddirym,ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo;yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn,a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.

5. “Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch;rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu;oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaithna choeliech, pe dywedid wrthych.

6. Oherwydd wele, yr wyf yn codi'r Caldeaid,y genedl greulon a gwyllt,sy'n ymdaith ledled y ddaeari feddiannu cartrefi nad ydynt yn eiddo iddynt.

7. Arswydus ac ofnadwy ydynt,yn dilyn eu rheolau a'u hawdurdod eu hunain.

8. Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard,yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr,ac yn ysu am fynd.Daw ei farchogion o bell,yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth.

9. Dônt i gyd i dreisio,a bydd dychryn o'u blaen;casglant gaethion rif y tywod;

10. gwawdiant frenhinoedda dirmygant arweinwyr;dirmygant bob amddiffynfa,a gosod gwarchae i'w meddiannu.

11. Yna rhuthrant heibio fel gwynt—dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth.”

12. Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD,fy Nuw sanctaidd na fyddi farw?O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn;O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 1