Hen Destament

Testament Newydd

Gweddi Manasse 1:4-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. y mae pob peth yn crynu ac yn dychrynu gerbron dy allu di.

5. Oherwydd ni ellir goddef gorwychder dy ogoniant,nac ymddál dan ddicter dy fygwth ar bechaduriaid;

6. ond difesur a diamgyffred yw'r drugaredd a addewaist.

7. Ti yw'r Arglwydd goruchaf,tosturiol, hirymarhous, a mawr dy drugaredd,yn ymatal rhag cosbi drygioni pobl.

8. Tydi, felly, Arglwydd Dduw y cyfiawn,nid i rai cyfiawn yr ordeiniaist edifeirwch,nid i Abraham, Isaac a Jacob, na phechasant yn dy erbyn;ond ordeiniaist edifeirwch i mi, sy'n bechadur,

9. oherwydd lluosocach na thywod y môr yw nifer fy mhechodau i.Amlhaodd fy nhroseddau, O Arglwydd; amlhau a wnaethant,fel nad wyf deilwng i edrych i fyny a syllu ar uchder y nefoedd,gan mor niferus yw fy nghamweddau.

10. Rwy'n wargrwm dan gadwyn drom o haearn,fel na allaf godi fy mhen ar gyfrif fy mhechodau;nid oes imi ymwared,gan imi gyffroi dy ddicter dia gwneud yr hyn sy'n ddrwg yn dy olwg,trwy godi eilunod ffiaidd a phentyrru pethau atgas.

11. Ac yn awr rwy'n darostwng fy nghalon, gan ddeisyf dy diriondeb.

12. Pechadur wyf, O Arglwydd, pechadur,ac yr wyf yn cydnabod fy nhroseddau.

13. Gofyn yr wyf, a deisyf arnat,arbed fi, O Arglwydd, arbed fi.Paid â'm difetha i gyda'm troseddau;paid â llidio'n dragwyddol wrthyf, na chadw drygioni mewn stôr imi;paid â'm condemnio i barthau isaf y ddaear;oherwydd Duw yr edifeiriol wyt ti, O Arglwydd.

14. Ynof fi y dangosi dy ddaioni;er mor annheilwng wyf, fe'm hachubi yn ôl dy drugaredd fawr.

15. Clodforaf di yn wastad holl ddyddiau fy mywyd.Oherwydd y mae holl lu'r nefoedd yn dy foliannu di,ac eiddot ti yw'r gogoniant am byth. Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Gweddi Manasse 1