1. Arglwydd hollalluog,Duw ein hynafiaid ni,Duw Abraham, Isaac a Jacob,a'u hiliogaeth gyfiawn hwy;
2. ti a wnaeth nef a daear a holl ysblander eu trefn,
3. ti a rwymodd y môr â gair dy orchymyn,ti a glodd y dyfnder a'i selio â'th enw ofnadwy a gogoneddus;
4. y mae pob peth yn crynu ac yn dychrynu gerbron dy allu di.
5. Oherwydd ni ellir goddef gorwychder dy ogoniant,nac ymddál dan ddicter dy fygwth ar bechaduriaid;
6. ond difesur a diamgyffred yw'r drugaredd a addewaist.
7. Ti yw'r Arglwydd goruchaf,tosturiol, hirymarhous, a mawr dy drugaredd,yn ymatal rhag cosbi drygioni pobl.