Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 8:7-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. ac anfon allan gigfran i weld a oedd y dyfroedd wedi treio, ac aeth hithau yma ac acw nes i'r dyfroedd sychu oddi ar y ddaear.

8. Yna gollyngodd golomen i weld a oedd y dyfroedd wedi treio oddi ar wyneb y tir;

9. ond ni chafodd y golomen le i roi ei throed i lawr, a dychwelodd ato i'r arch am fod dŵr dros wyneb yr holl ddaear. Estynnodd yntau ei law i'w derbyn, a'i chymryd ato i'r arch.

10. Arhosodd eto saith diwrnod, ac anfonodd y golomen eilwaith o'r arch.

11. Pan ddychwelodd y golomen ato gyda'r hwyr, yr oedd yn ei phig ddeilen olewydd newydd ei thynnu; a deallodd Noa fod y dyfroedd wedi treio oddi ar y ddaear.

12. Arhosodd eto saith diwrnod; anfonodd allan y golomen, ond ni ddaeth yn ôl ato y tro hwn.

13. Yn y flwyddyn chwe chant ac un o oed Noa, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear; a symudodd Noa gaead yr arch, a phan edrychodd allan, gwelodd wyneb y tir yn sychu.

14. Erbyn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, yr oedd y ddaear wedi sychu.

15. Yna llefarodd Duw wrth Noa, a dweud,

16. “Dos allan o'r arch, ti a'th wraig a'th feibion a gwragedd dy feibion gyda thi;

17. a dwg allan gyda thi bob creadur byw o bob cnawd, yn adar ac anifeiliaid a phopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, er mwyn iddynt epilio ar y ddaear, a ffrwytho ac amlhau ynddi.”

18. Felly aeth Noa allan gyda'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion;

19. hefyd aeth allan o'r arch bob bwystfil, pob ymlusgiad, pob aderyn a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear, yn ôl eu rhywogaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 8