4. Yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
5. Ciliodd y dyfroedd yn raddol hyd y degfed mis; ac yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth pennau'r mynyddoedd i'r golwg.
6. Ymhen deugain diwrnod agorodd Noa y ffenestr yr oedd wedi ei gwneud yn yr arch,
7. ac anfon allan gigfran i weld a oedd y dyfroedd wedi treio, ac aeth hithau yma ac acw nes i'r dyfroedd sychu oddi ar y ddaear.
8. Yna gollyngodd golomen i weld a oedd y dyfroedd wedi treio oddi ar wyneb y tir;
9. ond ni chafodd y golomen le i roi ei throed i lawr, a dychwelodd ato i'r arch am fod dŵr dros wyneb yr holl ddaear. Estynnodd yntau ei law i'w derbyn, a'i chymryd ato i'r arch.
10. Arhosodd eto saith diwrnod, ac anfonodd y golomen eilwaith o'r arch.
11. Pan ddychwelodd y golomen ato gyda'r hwyr, yr oedd yn ei phig ddeilen olewydd newydd ei thynnu; a deallodd Noa fod y dyfroedd wedi treio oddi ar y ddaear.
12. Arhosodd eto saith diwrnod; anfonodd allan y golomen, ond ni ddaeth yn ôl ato y tro hwn.
13. Yn y flwyddyn chwe chant ac un o oed Noa, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear; a symudodd Noa gaead yr arch, a phan edrychodd allan, gwelodd wyneb y tir yn sychu.
14. Erbyn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, yr oedd y ddaear wedi sychu.
15. Yna llefarodd Duw wrth Noa, a dweud,
16. “Dos allan o'r arch, ti a'th wraig a'th feibion a gwragedd dy feibion gyda thi;
17. a dwg allan gyda thi bob creadur byw o bob cnawd, yn adar ac anifeiliaid a phopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, er mwyn iddynt epilio ar y ddaear, a ffrwytho ac amlhau ynddi.”
18. Felly aeth Noa allan gyda'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion;