17. Bydd Dan yn sarff ar y ffordd,ac yn neidr ar y llwybr,yn brathu sodlau'r marchnes i'r marchog syrthio yn wysg ei gefn.
18. “Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD!
19. “Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid,ond bydd ef yn eu hymlid hwy.
20. “Aser, bras fydd ei fwyd,ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin.
21. “Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog,yn lledu brigau teg.
22. “Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon,cangen ffrwythlon wrth ffynnon,a'i cheinciau'n dringo dros y mur.
23. Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato,yn ei saethu yn llawn gelyniaeth;
24. ond parhaodd ei fwa yn gadarn,cryfhawyd ei freichiautrwy ddwylo Un Cadarn Jacob,trwy enw'r Bugail, Craig Israel;
25. trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu,trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithioâ bendithion y nefoedd uchod,bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod,bendithion y bronnau a'r groth.
26. Rhagorodd bendithion dy dadar fendithion y mynyddoedd tragwyddol,ac ar haelioni'r bryniau oesol;byddant hwy ar ben Joseff,ac ar dalcen yr un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.