Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 48:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Yna bendithiodd Joseff a dweud:“Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen,y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,

16. yr angel a'm gwaredodd rhag pob drwg,bydded iddo ef fendithio'r llanciau hyn.Bydded arnynt fy enw i ac enw fy nhadau, Abraham ac Isaac,a boed iddynt gynyddu yn niferus ar y ddaear.”

17. Gwelodd Joseff fod ei dad wedi gosod ei law dde ar ben Effraim, ac nid oedd yn hoffi hynny. Gafaelodd yn llaw ei dad i'w symud oddi ar ben Effraim a'i gosod ar ben Manasse,

18. ac meddai Joseff wrth ei dad, “Nid fel yna, fy nhad; hwn yw'r cyntafanedig, gosod dy law dde ar ei ben ef.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 48