Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 48:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yna cymerodd Joseff y ddau ohonynt, Effraim yn ei law dde i fod ar law chwith Israel, a Manasse yn ei law chwith i fod ar law dde Israel, a daeth â hwy ato.

14. Estynnodd Israel ei law dde a'i gosod ar ben Effraim, yr ieuengaf, a'i law chwith ar ben Manasse, trwy groesi ei ddwylo, er mai Manasse oedd yr hynaf.

15. Yna bendithiodd Joseff a dweud:“Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen,y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,

16. yr angel a'm gwaredodd rhag pob drwg,bydded iddo ef fendithio'r llanciau hyn.Bydded arnynt fy enw i ac enw fy nhadau, Abraham ac Isaac,a boed iddynt gynyddu yn niferus ar y ddaear.”

17. Gwelodd Joseff fod ei dad wedi gosod ei law dde ar ben Effraim, ac nid oedd yn hoffi hynny. Gafaelodd yn llaw ei dad i'w symud oddi ar ben Effraim a'i gosod ar ben Manasse,

18. ac meddai Joseff wrth ei dad, “Nid fel yna, fy nhad; hwn yw'r cyntafanedig, gosod dy law dde ar ei ben ef.”

19. Ond gwrthododd ei dad gan ddweud, “Mi wn i, fy mab, mi wn i. Bydd yntau hefyd yn bobl, a bydd yn fawr; ond bydd ei frawd ieuengaf yn fwy nag ef, a bydd ei ddisgynyddion yn lliaws o genhedloedd.”

20. Felly bendithiodd hwy y dydd hwnnw a dweud:“Ynoch chwi bydd Israel yn bendithio ac yn dweud,‘Gwnaed Duw di fel Effraim a Manasse.’ ”Felly gosododd Effraim o flaen Manasse.

21. Yna dywedodd Israel wrth Joseff, “Yr wyf yn marw, ond bydd Duw gyda chwi, ac fe'ch dychwel i dir eich hynafiaid.

22. A rhoddaf i ti yn hytrach nag i'th frodyr gefnen o dir a gymerais oddi ar yr Amoriaid â'm cleddyf ac â'm bwa.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 48