1. Ar ôl hyn dywedwyd wrth Joseff, “Y mae dy dad yn wael.” Felly cymerodd gydag ef ei ddau fab, Manasse ac Effraim,
2. a phan ddywedwyd wrth Jacob, “Y mae dy fab Joseff wedi dod atat”, cafodd Israel nerth i godi ar ei eistedd yn y gwely.
3. Yna dywedodd Jacob wrth Joseff, “Ymddangosodd Duw Hollalluog i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, a'm bendithio
4. a dweud wrthyf, ‘Fe'th wnaf di'n ffrwythlon a lluosog, yn gynulliad o bobloedd, a rhof y wlad hon yn etifeddiaeth dragwyddol i'th ddisgynyddion ar dy ôl.’
5. Ac yn awr, fi piau dy ddau fab, a anwyd i ti yng ngwlad yr Aifft cyn i mi ddod atat i'r Aifft. Fi piau Effraim a Manasse; byddant fel Reuben a Simeon i mi.
6. Ti fydd piau'r plant a genhedli ar eu hôl, ond dan enw eu brodyr y byddant yn etifeddu.
7. Oherwydd fel yr oeddwn yn dod o Padan, bu Rachel farw ar y daith yng ngwlad Canaan pan oedd eto dipyn o ffordd i Effrath, a chleddais hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem.”
8. Pan welodd Israel feibion Joseff, gofynnodd, “Pwy yw'r rhain?”
9. Ac atebodd Joseff ei dad, “Dyma fy meibion a roddodd Duw imi yma.” Dywedodd yntau, “Tyrd â hwy ataf i mi eu bendithio.”
10. Yr oedd llygaid Israel wedi pylu gan henaint, ac ni allai weld. Felly aeth Joseff â hwy yn nes at ei dad, a chusanodd yntau hwy a'u cofleidio.