9. Atebodd Jacob, “Yr wyf wedi cael ymdeithio ar y ddaear am gant tri deg o flynyddoedd. Byr a chaled fu fy ngyrfa, ac ni chyrhaeddais eto oed fy nhadau pan oeddent hwy yn fyw.”
10. Wedi i Jacob fendithio Pharo, aeth allan o'i ŵydd.
11. Yna gwnaeth Joseff gartref i'w dad a'i frodyr, a rhoes iddynt feddiant yn y rhan orau o wlad yr Aifft, yn nhir Rameses, fel y gorchmynnodd Pharo.
12. Gofalodd Joseff am fwyd i'w dad a'i frodyr, ac i holl dylwyth ei dad yn ôl yr angen.
13. Darfu'r bwyd drwy'r wlad, am fod y newyn yn drwm iawn; a nychodd gwlad yr Aifft a gwlad Canaan o achos y newyn.
14. Casglodd Joseff bob darn o arian a oedd yn yr Aifft a Chanaan yn dâl am yr ŷd a brynwyd, a daeth â'r arian i dŷ Pharo.
15. Pan wariwyd yr holl arian yn yr Aifft a Chanaan, daeth yr holl Eifftiaid at Joseff a dweud, “Rho inni fwyd. Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid? Y mae ein harian wedi darfod yn llwyr.”
16. Atebodd Joseff, “Os darfu'r arian, dewch â'ch anifeiliaid, a rhoddaf fwyd i chwi yn gyfnewid amdanynt.”
17. Felly daethant â'u hanifeiliaid at Joseff. Rhoddodd yntau fwyd iddynt yn gyfnewid am y meirch, y defaid, y gwartheg a'r asynnod. Cynhaliodd hwy dros y flwyddyn honno trwy gyfnewid bwyd am eu holl anifeiliaid.
18. Pan ddaeth y flwyddyn i ben, daethant ato y flwyddyn ddilynol a dweud, “Ni chelwn ddim oddi wrth ein harglwydd: y mae ein harian wedi darfod, aeth ein hanifeiliaid hefyd yn eiddo i'n harglwydd, ac nid oes yn aros i'n harglwydd ond ein cyrff a'n tir.
19. Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid, ni a'n tir? Pryn ni a'n tir am fwyd, a byddwn ni a'n tir yn gaethion i Pharo; rho dithau had inni i'n cadw'n fyw, rhag inni farw ac i'r tir fynd yn ddiffaith.”
20. Felly prynodd Joseff holl dir yr Aifft i Pharo. Gwerthodd pob un o'r Eifftiaid ei faes am fod y newyn yn drwm, ac aeth y wlad yn eiddo Pharo.
21. Ac am y bobl, fe'u gwnaeth i gyd yn gaethion, o naill gwr yr Aifft i'r llall.