Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 45:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Yna gorchymyn iddynt, ‘Gwnewch fel hyn: cymerwch wageni o wlad yr Aifft i'ch rhai bach ac i'ch gwragedd, a dewch â'ch tad yma.

20. Peidiwch â phryderu am eich celfi; y mae gorau holl wlad yr Aifft at eich galwad.’ ”

21. Gwnaeth meibion Israel felly; rhoddodd Joseff wageni iddynt, ar orchymyn Pharo, a bwyd at y daith.

22. Rhoddodd wisg newydd hefyd i bob un ohonynt, ond i Benjamin rhoddodd dri chant o ddarnau arian a phum gwisg newydd.

23. Dyma a anfonodd i'w dad: deg asyn yn llwythog o bethau gorau'r Aifft, a deg o asennod yn cario ŷd a bara, a bwyd i'w dad at y daith.

24. Yna anfonodd ei frodyr ymaith, ac wrth iddynt gychwyn dywedodd, “Peidiwch â chweryla ar y ffordd.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 45