Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 45:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yna dewch â'ch tad a'ch teuluoedd ataf, a rhof ichwi orau gwlad yr Aifft, a chewch fyw ar fraster y wlad.’

19. Yna gorchymyn iddynt, ‘Gwnewch fel hyn: cymerwch wageni o wlad yr Aifft i'ch rhai bach ac i'ch gwragedd, a dewch â'ch tad yma.

20. Peidiwch â phryderu am eich celfi; y mae gorau holl wlad yr Aifft at eich galwad.’ ”

21. Gwnaeth meibion Israel felly; rhoddodd Joseff wageni iddynt, ar orchymyn Pharo, a bwyd at y daith.

22. Rhoddodd wisg newydd hefyd i bob un ohonynt, ond i Benjamin rhoddodd dri chant o ddarnau arian a phum gwisg newydd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 45