Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 43:26-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, dygasant ato yr anrheg oedd ganddynt, ac ymgrymu i'r llawr o'i flaen.

27. Holodd yntau hwy am eu hiechyd, a gofyn, “A yw eich tad yn iawn, yr hen ŵr y buoch yn sôn amdano? A yw'n dal yn fyw?”

28. Atebasant, “Y mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach.” A phlygasant eu pennau ac ymgrymu.

29. Cododd yntau ei olwg a gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam ef ei hun, a gofynnodd, “Ai dyma eich brawd ieuengaf, y buoch yn sôn amdano?” A dywedodd wrtho, “Bydded Duw yn rasol wrthyt, fy mab.”

30. Yna brysiodd Joseff a chwilio am le i wylo, oherwydd cyffrowyd ei deimladau o achos ei frawd. Aeth i'w ystafell ac wylo yno.

31. Yna golchodd ei wyneb a daeth allan gan ymatal, a dywedodd, “Dewch â'r bwyd.”

32. Gosodwyd bwyd iddo ef ar wahân, ac iddynt hwy ar wahân, ac i'r Eifftiaid oedd yn bwyta gydag ef ar wahân; oherwydd ni allai'r Eifftiaid gydfwyta gyda'r Hebreaid, am fod hynny'n ffieidd-dra ganddynt.

33. Yr oeddent yn eistedd o'i flaen, y cyntafanedig yn ôl ei flaenoriaeth a'r ieuengaf yn ôl ei ieuenctid; a rhyfeddodd y dynion ymysg ei gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 43