5. Daeth meibion Israel ymhlith eraill i brynu ŷd, am fod newyn trwy wlad Canaan.
6. Joseff oedd yr arolygwr dros y wlad, ac ef oedd yn gwerthu ŷd i bawb. A daeth brodyr Joseff ac ymgrymu iddo i'r llawr.
7. Pan welodd Joseff ei frodyr, adnabu hwy, ond ymddygodd fel dieithryn a siarad yn hallt wrthynt. Gofynnodd iddynt, “O ble y daethoch?” Ac atebasant, “O wlad Canaan i brynu bwyd.”
8. Yr oedd Joseff wedi adnabod ei frodyr, ond nid oeddent hwy'n ei adnabod ef.
9. Cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanynt, a dywedodd wrthynt, “Ysbiwyr ydych; yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”
10. Dywedasant hwythau wrtho, “Na, arglwydd, y mae dy weision wedi dod i brynu bwyd.
11. Meibion un gŵr ydym ni i gyd, a dynion gonest; nid ysbiwyr yw dy weision.”
12. Meddai yntau wrthynt, “Na, yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”
13. Atebasant, “Deuddeg brawd oedd dy weision, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan; y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad, ond nid yw'r llall yn fyw.”
14. Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Y gwir amdani yw mai ysbiwyr ydych.
15. Fel hyn y rhoddir prawf arnoch: cyn wired â bod Pharo'n fyw, ni chewch ymadael oni ddaw eich brawd ieuengaf yma.
16. Anfonwch un o'ch plith i gyrchu eich brawd, tra byddwch chwi yng ngharchar; felly y profir eich geiriau, i wybod a ydynt yn wir. Os nad ydynt, cyn wired â bod Pharo'n fyw, ysbiwyr ydych.”