6. yna saith dywysen denau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu hôl.
7. Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen fras a llawn. Yna deffrôdd Pharo a deall mai breuddwyd ydoedd.
8. Pan ddaeth y bore, yr oedd wedi cynhyrfu ac anfonodd am holl ddewiniaid a doethion yr Aifft; dywedodd Pharo ei freuddwyd wrthynt, ond ni allai neb ei dehongli iddo.
9. Yna dywedodd y pen-trulliad wrth Pharo, “Rwy'n cofio heddiw imi fod ar fai.
10. Pan ffromodd Pharo wrth ei weision a'm rhoi i a'r pen-pobydd yn y ddalfa yn nhÅ· pennaeth y gwarchodwyr,
11. cawsom ein dau freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun.
12. Ac yno gyda ni yr oedd llanc o Hebrëwr, gwas pennaeth y gwarchodwyr; wedi inni eu hadrodd iddo, dehonglodd ein breuddwydion i'r naill a'r llall ohonom.
13. Fel y dehonglodd inni, felly y bu; adferwyd fi i'm swydd, a chrogwyd y llall.”
14. Yna anfonodd Pharo am Joseff, a daethant ag ef ar frys o'r gell; eilliodd yntau a newid ei ddillad, a daeth at Pharo.
15. A dywedodd Pharo wrth Joseff, “Cefais freuddwyd, ac ni all neb ei dehongli, ond clywais amdanat ti dy fod yn gallu gwrando breuddwyd a'i dehongli.”
16. Atebodd Joseff Pharo a dweud, “Nid myfi; Duw a rydd ateb ffafriol i Pharo.”
17. Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn sefyll ar lan y Neil,
18. a dyma saith o wartheg tew a phorthiannus yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;