Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 41:41-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dyma fi wedi dy osod di'n ben ar holl wlad yr Aifft,”

42. a thynnodd ei fodrwy oddi ar ei law a'i gosod ar law Joseff, a gwisgo amdano ddillad o liain main, a rhoi cadwyn aur am ei wddf.

43. Parodd iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai i weiddi o'i flaen, “Plygwch lin.” Felly gosododd Pharo ef dros holl wlad yr Aifft.

44. A dywedodd Pharo wrth Joseff, “Myfi yw Pharo, ond heb dy ganiatâd di nid yw neb i godi na llaw na throed trwy holl wlad yr Aifft.”

45. Enwodd Pharo ef Saffnath-panea, a rhoddodd yn wraig iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On. Yna aeth Joseff allan yn bennaeth dros wlad yr Aifft.

46. Deng mlwydd ar hugain oedd oed Joseff pan safodd gerbron Pharo brenin yr Aifft. Aeth allan o ŵydd Pharo, a thramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.

47. Yn ystod y saith mlynedd o lawnder cnydiodd y ddaear yn doreithiog,

48. a chasglodd yntau yr holl fwyd a gaed yng ngwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a chrynhoi ymborth yn y dinasoedd. Casglodd i bob dinas fwyd y meysydd o'i hamgylch.

49. Felly pentyrrodd Joseff ŷd fel tywod y môr, nes peidio â chadw cyfrif, am na ellid ei fesur.

50. Cyn dyfod blwyddyn y newyn, ganwyd i Joseff ddau fab o Asnath, merch Potiffera offeiriad On.

51. Enwodd Joseff ei gyntafanedig Manasse—“Am fod Duw wedi peri imi anghofio fy holl gyni a holl dylwyth fy nhad.”

52. Enwodd yr ail Effraim—“Am fod Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yng ngwlad fy ngorthrymder.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 41