Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 41:25-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Yna dywedodd Joseff wrth Pharo, “Un ystyr sydd i freuddwyd Pharo; y mae Duw wedi mynegi i Pharo yr hyn y mae am ei wneud.

26. Y saith o wartheg da, saith mlynedd ydynt, a'r saith dywysen dda, saith mlynedd ydynt; un freuddwyd sydd yma.

27. Saith mlynedd hefyd yw'r saith o wartheg tenau a nychlyd a esgynnodd ar eu hôl, a saith mlynedd o newyn yw'r saith dywysen wag wedi eu deifio gan wynt y dwyrain.

28. Fel y dywedais wrth Pharo, y mae Duw wedi dangos i Pharo yr hyn y mae am ei wneud.

29. Daw saith mlynedd o lawnder mawr trwy holl wlad yr Aifft,

30. ond ar eu hôl daw saith mlynedd o newyn, ac anghofir yr holl lawnder yng ngwlad yr Aifft; difethir y wlad gan y newyn,

31. ac ni fydd ôl y llawnder yn y wlad o achos y newyn hwnnw fydd yn ei ddilyn, gan mor drwm fydd.

32. Dyblwyd breuddwyd Pharo am fod y peth mor sicr gan Dduw, a bod Duw ar fin ei gyflawni.

33. Yn awr, dylai Pharo edrych am ŵr deallus a doeth i'w osod ar wlad yr Aifft.

34. Dyma a ddylai Pharo ei wneud: gosod arolygwyr dros y wlad, i gymryd y bumed ran o gnwd gwlad yr Aifft dros y saith mlynedd o lawnder.

35. Dylent gasglu holl fwyd y blynyddoedd da sydd ar ddod, a thrwy awdurdod Pharo, dylent gasglu ŷd yn ymborth i'w gadw yn y dinasoedd,

36. fel y bydd y bwyd ynghadw i'r wlad dros y saith mlynedd o newyn sydd i fod yng ngwlad yr Aifft, rhag i'r wlad gael ei difetha gan y newyn.”

37. Bu'r cyngor yn dderbyniol gan Pharo a'i holl weision.

38. A dywedodd Pharo wrth ei weision, “A fedrwn ni gael gŵr arall fel hwn ag ysbryd Duw ynddo?”

39. Felly dywedodd Pharo wrth Joseff, “Am i Dduw roi gwybod hyn oll i ti, nid oes neb mor ddeallus a doeth â thi;

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 41