Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 4:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. A dywedodd Lamech wrth ei wragedd:“Ada a Sila, clywch fy llais;chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd;lleddais ŵr am fy archolli, a llanc am fy nghleisio.

24. Os dielir am Cain seithwaith,yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.”

25. Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a'i alw'n Seth, a dweud, “Darparodd Duw i mi fab arall yn lle Abel, am i Cain ei ladd.”

26. I Seth hefyd fe anwyd mab, a galwodd ef yn Enos. Yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 4