15. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Nid felly; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith.” A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a ddôi ar ei draws ei ladd.
16. Yna aeth Cain ymaith o ŵydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden.
17. Cafodd Cain gyfathrach â'i wraig, a beichiogodd ac esgor ar Enoch; ac adeiladodd ddinas, a'i galw ar ôl ei fab, Enoch.
18. Ac i Enoch ganwyd Irad; Irad oedd tad Mehwiael, Mehwiael oedd tad Methwsael, a Methwsael oedd tad Lamech.
19. Cymerodd Lamech ddwy wraig; Ada oedd enw'r gyntaf, a Sila oedd enw'r ail.
20. Esgorodd Ada ar Jabal; ef oedd tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail.
21. Enw ei frawd oedd Jwbal; ef oedd tad pob canwr telyn a phib.
22. Esgorodd Sila, y wraig arall, ar Twbal-Cain, cyfarwyddwr pob un sy'n gwneud cywreinwaith pres a haearn. Naama oedd chwaer Twbal-Cain.
23. A dywedodd Lamech wrth ei wragedd:“Ada a Sila, clywch fy llais;chwi wragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd;lleddais ŵr am fy archolli, a llanc am fy nghleisio.
24. Os dielir am Cain seithwaith,yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.”
25. Cafodd Adda gyfathrach â'i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a'i alw'n Seth, a dweud, “Darparodd Duw i mi fab arall yn lle Abel, am i Cain ei ladd.”
26. I Seth hefyd fe anwyd mab, a galwodd ef yn Enos. Yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.