Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 39:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. a gwelodd ei feistr fod yr ARGLWYDD gydag ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo popeth yr oedd yn ei wneud.

4. Cafodd Joseff ffafr yn ei olwg, a bu'n gweini arno; gwnaeth yntau ef yn arolygydd ar ei dŷ a rhoi ei holl eiddo dan ei ofal.

5. Ac o'r amser y gwnaeth ef yn arolygydd ar ei dŷ ac ar ei holl eiddo, bendithiodd yr ARGLWYDD dŷ'r Eifftiwr er mwyn Joseff; yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar ei holl eiddo, yn y tŷ ac yn y maes.

6. Gadawodd ei holl eiddo yng ngofal Joseff, ac nid oedd gofal arno am ddim ond y bwyd yr oedd yn ei fwyta.Yr oedd Joseff yn olygus a glân,

7. ac ymhen amser rhoddodd gwraig ei feistr ei bryd ar Joseff a dweud, “Gorwedd gyda mi.”

8. Ond gwrthododd, a dweud wrth wraig ei feistr, “Nid oes gofal ar fy meistr am ddim yn y tŷ; y mae wedi rhoi ei holl eiddo yn fy ngofal i.

9. Nid oes neb yn fwy na mi yn y tŷ hwn, ac nid yw wedi cadw dim oddi wrthyf ond tydi, am mai ei wraig wyt. Sut felly y gwnawn i y drwg mawr hwn, a phechu yn erbyn Duw?”

10. Ac er iddi grefu ar Joseff beunydd, ni wrandawodd arni; ni orweddodd gyda hi na chymdeithasu â hi.

11. Ond un diwrnod, pan aeth i'r tŷ ynglŷn â'i waith, heb fod neb o weision y tŷ yno,

12. fe'i daliodd ef gerfydd ei wisg, a dweud, “Gorwedd gyda mi.” Ond gadawodd ef ei wisg yn ei llaw a ffoi allan.

13. Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei wisg yn ei llaw, a ffoi allan,

14. galwodd ar weision ei thŷ a dweud wrthynt, “Gwelwch, y mae wedi dod â Hebrëwr atom i'n gwaradwyddo; daeth ataf i orwedd gyda mi, a gwaeddais innau yn uchel.

15. Pan glywodd fi'n codi fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan.”

16. Yna cadwodd wisg Joseff yn ei hymyl nes i'w feistr ddod adref,

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 39