Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 39:12-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. fe'i daliodd ef gerfydd ei wisg, a dweud, “Gorwedd gyda mi.” Ond gadawodd ef ei wisg yn ei llaw a ffoi allan.

13. Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei wisg yn ei llaw, a ffoi allan,

14. galwodd ar weision ei thÅ· a dweud wrthynt, “Gwelwch, y mae wedi dod â Hebrëwr atom i'n gwaradwyddo; daeth ataf i orwedd gyda mi, a gwaeddais innau yn uchel.

15. Pan glywodd fi'n codi fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan.”

16. Yna cadwodd wisg Joseff yn ei hymyl nes i'w feistr ddod adref,

17. ac adroddodd yr un stori wrtho ef, a dweud, “Daeth y gwas o Hebrëwr, a ddygaist i'n plith, i mewn ataf i'm gwaradwyddo;

18. ond pan godais fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan.”

19. Pan glywodd meistr Joseff ei wraig yn dweud wrtho am yr hyn a wnaeth ei was iddi, enynnodd ei lid.

20. Cymerodd Joseff a'i roi yn y carchar, lle'r oedd carcharorion y brenin yn gaeth; ac yno y bu yn y carchar.

21. Ond yr oedd yr ARGLWYDD gyda Joseff, a bu'n drugarog wrtho a rhoi ffafr iddo yng ngolwg ceidwad y carchar.

22. Rhoes ceidwad y carchar yr holl garcharorion yng ngofal Joseff, ac ef fyddai'n gwneud beth bynnag oedd i'w wneud yno.

23. Nid oedd ceidwad y carchar yn pryderu am ddim a oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag ef ac yn ei lwyddo ym mha beth bynnag y byddai'n ei wneud.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 39