Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 38:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr adeg honno gadawodd Jwda ei frodyr a throi at ŵr o Adulam o'r enw Hira.

2. Ac yno gwelodd Jwda ferch rhyw Ganaanead o'r enw Sua, a chymerodd hi'n wraig iddo a chafodd gyfathrach â hi;

3. beichiogodd hithau ac esgor ar fab, ac enwodd yntau ef yn Er.

4. Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, ac enwodd ef Onan.

5. Esgorodd eto ar fab, ac enwodd ef Sela; yn Chesib yr oedd pan esgorodd arno.

6. Cymerodd Jwda wraig o'r enw Tamar i Er ei fab hynaf.

7. Ond dyn drygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd Er, mab hynaf Jwda; a pharodd yr ARGLWYDD iddo farw.

8. Yna dywedodd Jwda wrth Onan, “Dos at wraig dy frawd, ac fel brawd ei gŵr cod deulu i'th frawd.”

9. Ond gwyddai Onan nad ei eiddo ef fyddai'r teulu; ac felly, pan âi at wraig ei frawd, collai ei had ar lawr, rhag rhoi plant i'w frawd.

10. Yr oedd yr hyn a wnaeth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a pharodd iddo yntau farw.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 38