15. Cyfarfu gŵr ag ef pan oedd yn crwydro yn y fro, a gofyn iddo, “Beth wyt ti'n ei geisio?”
16. Atebodd yntau, “Rwy'n ceisio fy mrodyr; dywed wrthyf ble maent yn bugeilio.”
17. A dywedodd y gŵr, “Y maent wedi mynd oddi yma, oherwydd clywais hwy'n dweud, ‘Awn i Dothan.’ ” Felly aeth Joseff ar ôl ei frodyr, a chafodd hyd iddynt yn Dothan.
18. Gwelsant ef o bell, a chyn iddo gyrraedd atynt gwnaethant gynllwyn i'w ladd,
19. a dweud wrth ei gilydd, “Dacw'r breuddwydiwr hwnnw'n dod.
20. Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion.”
21. Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, “Peidiwn â'i ladd.”
22. Dywedodd Reuben wrthynt, “Peidiwch â thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn ôl at ei dad.
23. A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo,
24. a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddŵr ynddo.