Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 34:4-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yna dywedodd Sichem wrth ei dad Hamor, “Cymer y ferch hon yn wraig i mi.”

5. Pan glywodd Jacob iddo halogi ei ferch Dina, yr oedd ei feibion gyda'i anifeiliaid yn y maes; ac felly ni ddywedodd ddim cyn iddynt ddod adref.

6. Yna daeth Hamor tad Sichem allan i siarad â Jacob.

7. Wedi i feibion Jacob gyrraedd o'r maes a chlywed am y peth, cynhyrfodd y gwŷr a ffromi'n fawr am i Sichem wneud tro ysgeler yn Israel trwy orwedd gyda merch Jacob, gan na ddylid gwneud felly.

8. Ond erfyniodd Hamor arnynt, a dweud, “Y mae fy mab Sichem wedi rhoi ei fryd ar gael y ferch; rhowch hi'n wraig iddo.

9. Trefnwch briodasau â ni; rhowch eich merched i ni, a chymerwch chwithau ein merched ninnau.

10. Dewch i gyd-fyw â ni, a bydd y wlad yn rhydd ichwi; dewch i fyw ynddi, a marchnata a cheisio meddiant ynddi.”

11. Dywedodd Sichem hefyd wrth ei thad a'i brodyr, “Os caf ffafr yn eich golwg, yna rhof ichwi beth bynnag a ofynnwch gennyf.

12. Cynyddwch yn sylweddol y gwaddol a'r rhodd, ac fe rof yn ôl eich gofyn, dim ond ichwi roi'r ferch yn wraig i mi.”

13. Am i'w chwaer Dina gael ei halogi, rhoddodd meibion Jacob ateb dichellgar i Sichem a'i dad Hamor.

14. Dywedasant wrthynt, “Ni allwn wneud y fath beth, a rhoi ein chwaer i ŵr heb ei enwaedu; byddai hynny'n warth i ni.

15. Ar yr amod hwn yn unig y cytunwn â chwi, sef eich bod chwi, fel ni, yn enwaedu pob gwryw.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 34