Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 33:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yna cododd Esau ei olwg a gweld y gwragedd a'r plant, a gofynnodd, “Pwy yw'r rhain sydd gyda thi?” Atebodd yntau, “Dyma'r plant y mae Duw o'i ffafr wedi eu rhoi i'th was.”

6. Yna nesaodd y morynion a'u plant, ac ymgrymu;

7. nesaodd Lea hefyd a'i phlant, ac ymgrymu; ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.

8. Dywedodd Esau, “Beth a fwriedi gyda'r holl fintai hon a gyfarfûm?” Atebodd yntau, “Ennill ffafr yng ngolwg f'arglwydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 33