Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 33:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. A dywedodd Esau, “Gad imi drefnu i rai o'm dynion fynd gyda thi.” Ond atebodd yntau, “Pam, os wyf yn cael ffafr yng ngolwg f'arglwydd?”

16. Yna dychwelodd Esau y diwrnod hwnnw ar ei ffordd i Seir.

17. A theithiodd Jacob i Succoth, ac adeiladodd dŷ iddo'i hun a gwneud cytiau i'w anifeiliaid; am hynny enwodd y lle Succoth.

18. Ar ei daith o Padan Aram, daeth Jacob yn ddiogel i ddinas Sichem yng ngwlad Canaan, a gwersyllodd ger y ddinas.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 33