Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 33:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cododd Jacob ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd Esau yn dod, a phedwar cant o ddynion gydag ef. Rhannodd Jacob y plant rhwng Lea a Rachel a'r ddwy forwyn,

2. a gosododd y morynion a'u plant ar y blaen, yna Lea a'i phlant y tu ôl iddynt, a Rachel a Joseff yn olaf.

3. Cerddodd yntau o'u blaen ac ymgrymu i'r llawr seithwaith wrth nesáu at ei frawd.

4. Ond rhedodd Esau i'w gyfarfod, a'i gofleidio a rhoi ei freichiau am ei wddf a'i gusanu, ac wylodd y ddau.

5. Yna cododd Esau ei olwg a gweld y gwragedd a'r plant, a gofynnodd, “Pwy yw'r rhain sydd gyda thi?” Atebodd yntau, “Dyma'r plant y mae Duw o'i ffafr wedi eu rhoi i'th was.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 33