Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 31:52-55 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

52. Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth, ac y mae'r golofn hon yn dystiolaeth, na ddof heibio'r garnedd hon atat ti, ac na ddoi dithau heibio'r garnedd hon a'r golofn hon ataf fi, i wneud niwed.

53. Boed i Dduw Abraham a Duw Nachor, Duw eu tadau, farnu rhyngom.” A thyngodd Jacob lw i Arswyd Isaac, ei dad,

54. ac offrymodd Jacob aberth ar y mynydd, a galw ar ei berthnasau i fwyta bara; a bwytasant fara ac aros dros nos ar y mynydd.

55. Cododd Laban yn gynnar drannoeth a chusanodd ei blant a'i ferched a'u bendithio; yna aeth ymaith a dychwelyd i'w fro ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 31