26. A dywedodd Laban wrth Jacob, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud? Yr wyt wedi fy nhwyllo, a dwyn ymaith fy merched fel caethion rhyfel.
27. Pam y ffoaist yn ddirgel a'm twyllo? Pam na roist wybod i mi, er mwyn imi gael dy hebrwng yn llawen â chaniadau a thympan a thelyn?
28. Ni adewaist imi gusanu fy meibion a'm merched; yr wyt wedi gwneud peth ffôl.
29. Gallwn wneud niwed i chwi, ond llefarodd Duw dy dad wrthyf neithiwr, a dweud, ‘Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.’
30. Diau mai am iti hiraethu am dŷ dy dad yr aethost ymaith, ond pam y lladrateaist fy nuwiau?”
31. Yna atebodd Jacob Laban, “Ffoais am fod arnaf ofn, gan imi feddwl y byddit yn dwyn dy ferched oddi arnaf trwy drais.
32. Ond y sawl sy'n cadw dy dduwiau, na chaffed fyw! Yng ngŵydd ein brodyr myn wybod beth o'th eiddo sydd gyda mi, a chymer ef.” Ni wyddai Jacob mai Rachel oedd wedi eu lladrata.
33. Felly aeth Laban i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy forwyn, ond heb gael y duwiau. Daeth allan o babell Lea a mynd i mewn i babell Rachel.
34. Yr oedd Rachel wedi cymryd delwau'r teulu a'u gosod yng nghyfrwy'r camel, ac yr oedd yn eistedd arnynt. Chwiliodd Laban trwy'r babell heb eu cael.
35. A dywedodd Rachel wrth ei thad, “Peidied f'arglwydd â digio am na fedraf godi o'th flaen, oherwydd y mae arfer gwragedd arnaf.” Er iddo chwilio, ni chafodd hyd i ddelwau'r teulu.
36. Yna digiodd Jacob ac edliw i Laban, a dweud wrtho, “Beth yw fy nhrosedd? Beth yw fy mhechod, dy fod wedi fy erlid?
37. Er iti chwilio fy holl eiddo, beth a gefaist sy'n perthyn i ti? Gosod ef yma yng ngŵydd fy mrodyr i a'th frodyr dithau, er mwyn iddynt farnu rhyngom ein dau.