Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 31:15-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Onid ydym ni'n cael ein cyfrif ganddo yn estroniaid? Oherwydd y mae wedi'n gwerthu, ac wedi gwario'r arian.

16. Yr holl gyfoeth y mae Duw wedi ei gymryd oddi ar ein tad, ein heiddo ni a'n plant ydyw; yn awr, felly, gwna bopeth a ddywedodd Duw wrthyt.”

17. Yna cododd Jacob a gosod ei blant a'i wragedd ar gamelod;

18. a thywysodd ei holl anifeiliaid a'i holl eiddo, a gafodd yn Padan Aram, i fynd i wlad Canaan at ei dad Isaac.

19. Yr oedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid, a lladrataodd Rachel ddelwau'r teulu oedd yn perthyn i'w thad.

20. Felly bu i Jacob dwyllo Laban yr Aramead trwy ffoi heb ddweud wrtho.

21. Ffodd gyda'i holl eiddo, a chroesi'r Ewffrates, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir Gilead.

22. Ymhen tridiau rhoed gwybod i Laban fod Jacob wedi ffoi.

23. Cymerodd yntau ei berthnasau gydag ef, a'i ymlid am saith diwrnod a'i ganlyn hyd fynydd-dir Gilead.

24. Ond daeth Duw at Laban yr Aramead mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, “Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.”

25. Pan oddiweddodd Laban Jacob, yr oedd Jacob wedi lledu ei babell yn y mynydd-dir; ac felly, gwersyllodd Laban gyda'i frodyr ym mynydd-dir Gilead.

26. A dywedodd Laban wrth Jacob, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud? Yr wyt wedi fy nhwyllo, a dwyn ymaith fy merched fel caethion rhyfel.

27. Pam y ffoaist yn ddirgel a'm twyllo? Pam na roist wybod i mi, er mwyn imi gael dy hebrwng yn llawen â chaniadau a thympan a thelyn?

28. Ni adewaist imi gusanu fy meibion a'm merched; yr wyt wedi gwneud peth ffôl.

29. Gallwn wneud niwed i chwi, ond llefarodd Duw dy dad wrthyf neithiwr, a dweud, ‘Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.’

30. Diau mai am iti hiraethu am dŷ dy dad yr aethost ymaith, ond pam y lladrateaist fy nuwiau?”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 31