Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 31:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywodd Jacob fod meibion Laban yn dweud, “Y mae Jacob wedi cymryd holl eiddo ein tad, ac o'r hyn oedd yn perthyn i'n tad y mae ef wedi ennill yr holl gyfoeth hwn.”

2. A gwelodd Jacob nad oedd agwedd Laban ato fel y bu o'r blaen.

3. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jacob, “Dos yn ôl i wlad dy dadau ac at dy dylwyth, a byddaf gyda thi.”

4. Felly anfonodd Jacob a galw Rachel a Lea i'r maes lle'r oedd ei braidd;

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 31