1. Clywodd Jacob fod meibion Laban yn dweud, “Y mae Jacob wedi cymryd holl eiddo ein tad, ac o'r hyn oedd yn perthyn i'n tad y mae ef wedi ennill yr holl gyfoeth hwn.”
2. A gwelodd Jacob nad oedd agwedd Laban ato fel y bu o'r blaen.
3. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jacob, “Dos yn ôl i wlad dy dadau ac at dy dylwyth, a byddaf gyda thi.”
4. Felly anfonodd Jacob a galw Rachel a Lea i'r maes lle'r oedd ei braidd;
5. a dywedodd wrthynt, “Gwelaf nad yw agwedd eich tad ataf fel y bu o'r blaen, ond bu Duw fy nhad gyda mi.
6. Gwyddoch fy mod wedi gweithio i'ch tad â'm holl egni;
7. ond twyllodd eich tad fi, a newid fy nghyflog ddengwaith; eto ni adawodd Duw iddo fy niweidio.
8. Pan ddywedai ef, ‘Y brithion fydd dy gyflog’, yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar frithion; a phan ddywedai ef, ‘Y broc fydd dy gyflog’, yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar rai broc.
9. Felly cymerodd Duw anifeiliaid eich tad a'u rhoi i mi.
10. Yn nhymor beichiogi'r praidd codais fy ngolwg a gweld mewn breuddwyd fod yr hyrddod oedd yn llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc.