Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 30:32-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. gad imi fynd heddiw trwy dy holl braidd a didoli pob dafad frith a broc a phob oen du, a'r geifr brith a broc; a'r rhain fydd fy nghyflog.

33. A chei dystiolaeth i'm gonestrwydd yn y dyfodol pan ddoi i weld fy nghyflog. Pob un o'r geifr nad yw'n frith a broc, ac o'r ŵyn nad yw'n ddu, bydd hwnnw wedi ei ladrata gennyf.”

34. “O'r gorau,” meddai Laban, “bydded yn ôl dy air.”

35. Ond y diwrnod hwnnw didolodd Laban y bychod brith a broc, a'r holl eifr brith a broc, pob un â gwyn arno, a phob oen du, a'u rhoi yng ngofal ei feibion,

36. a'u gosod bellter taith tridiau oddi wrth Jacob; a bugeiliodd Jacob y gweddill o braidd Laban.

37. Yna cymerodd Jacob wiail gleision o boplys ac almon a ffawydd, a thynnu oddi arnynt ddarnau o'r rhisgl, gan ddangos gwyn ar y gwiail.

38. Gosododd y gwiail yr oedd wedi eu rhisglo yn y ffosydd o flaen y praidd, wrth y cafnau dŵr lle byddai'r praidd yn dod i yfed. Gan eu bod yn beichiogi pan fyddent yn dod i yfed,

39. beichiogodd y praidd gyferbyn â'r gwiail, a bwrw ŵyn wedi eu marcio'n frith a broc.

40. Byddai Jacob yn didol yr ŵyn, ond yn troi wynebau'r defaid tuag at y rhai brith a'r holl rai duon ymysg praidd Laban; gosodai ei braidd ei hun ar wahân, heb fod gyda phraidd Laban.

41. Bob tro yr oedd y defaid cryfaf yn beichiogi, yr oedd Jacob yn gosod y gwiail yn y ffosydd gyferbyn â'r praidd, er mwyn iddynt feichiogi o flaen y gwiail,

42. ond nid oedd yn eu gosod ar gyfer defaid gwan y praidd; felly daeth y gwannaf yn eiddo Laban, a'r cryfaf yn eiddo Jacob.

43. Fel hyn cynyddodd ei gyfoeth ef yn fawr, ac yr oedd ganddo breiddiau niferus, morynion a gweision, camelod ac asynnod.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 30