Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 30:23-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y mae Duw wedi tynnu ymaith fy ngwarth.”

24. A galwodd ef Joseff, gan ddweud, “Bydded i'r ARGLWYDD ychwanegu i mi fab arall.”

25. Wedi i Rachel esgor ar Joseff, dywedodd Jacob wrth Laban, “Gad imi ymadael, er mwyn imi fynd i'm cartref fy hun ac i'm gwlad.

26. Rho imi fy ngwragedd a'm plant yr wyf wedi gweithio amdanynt, a gad imi fynd; oherwydd gwyddost fel yr wyf wedi gweithio iti.”

27. Ond dywedodd Laban wrtho, “Os caf ddweud, yr wyf wedi dod i weld mai o'th achos di y mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i;

28. noda dy gyflog, ac fe'i talaf.”

29. Atebodd yntau, “Gwyddost sut yr wyf wedi gweithio iti, a sut y bu ar dy anifeiliaid gyda mi;

30. ychydig oedd gennyt cyn i mi ddod, ond cynyddodd yn helaeth, a bendithiodd yr ARGLWYDD di bob cam. Yn awr, onid yw'n bryd i mi ddarparu ar gyfer fy nheulu fy hun?”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 30