Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 30:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan welodd Rachel nad oedd hi yn geni plant i Jacob, cenfigennodd wrth ei chwaer; a dywedodd wrth Jacob, “Rho blant i mi, neu byddaf farw.”

2. Teimlodd Jacob yn ddig wrth Rachel, ac meddai, “A wyf fi yn safle Duw, yr hwn sydd wedi atal ffrwyth dy groth?”

3. Dywedodd hithau, “Dyma fy morwyn Bilha; dos i gael cyfathrach â hi er mwyn iddi ddwyn plant ar fy ngliniau, ac i minnau gael teulu ohoni.”

4. Felly rhoddodd ei morwyn Bilha yn wraig iddo; a chafodd Jacob gyfathrach â hi.

5. Beichiogodd Bilha ac esgor ar fab i Jacob.

6. Yna dywedodd Rachel, “Y mae Duw wedi fy marnu; y mae hefyd wedi gwrando arnaf a rhoi imi fab.” Am hynny galwodd ef Dan.

7. Beichiogodd Bilha morwyn Rachel eilwaith, ac esgor ar ail fab i Jacob.

8. Yna dywedodd Rachel, “Yr wyf wedi ymdrechu'n galed yn erbyn fy chwaer, a llwyddo.” Felly galwodd ef Nafftali.

9. Pan welodd Lea ei bod wedi peidio â geni plant, cymerodd ei morwyn Silpa a'i rhoi'n wraig i Jacob.

10. Yna esgorodd Silpa morwyn Lea ar fab i Jacob,

11. a dywedodd Lea, “Ffawd dda.” Felly galwodd ef Gad.

12. Esgorodd Silpa morwyn Lea ar ail fab i Jacob,

13. a dywedodd Lea, “Dedwydd wyf! Bydd y merched yn fy ngalw yn ddedwydd.” Felly galwodd ef Aser.

14. Yn nyddiau'r cynhaeaf gwenith aeth Reuben allan a chael mandragorau yn y maes, a'u rhoi i Lea ei fam. Yna dywedodd Rachel wrth Lea, “Rho imi rai o fandragorau dy fab.”

15. Ond dywedodd hithau wrthi, “Ai peth dibwys yw dy fod wedi cymryd fy ngŵr? A wyt hefyd am gymryd mandragorau fy mab?” Dywedodd Rachel, “o'r gorau, caiff Jacob gysgu gyda thi heno yn dâl am fandragorau dy fab.”

16. Pan oedd Jacob yn dod o'r maes gyda'r nos, aeth Lea i'w gyfarfod a dweud, “Gyda mi yr wyt i gysgu, oherwydd yr wyf wedi talu am dy gael â mandragorau fy mab.” Felly cysgodd gyda hi y noson honno.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 30