Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 29:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yna dywedodd Jacob wrth Laban, “Daeth fy nhymor i ben; rho fy ngwraig imi, er mwyn imi gael cyfathrach â hi.”

22. Casglodd Laban holl bobl y lle at ei gilydd, a gwnaeth wledd.

23. Ond gyda'r hwyr cymerodd ei ferch Lea a mynd â hi at Jacob; cafodd yntau gyfathrach â hi.

24. Ac yr oedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea yn forwyn.

25. Pan ddaeth y bore, gwelodd Jacob mai Lea oedd gydag ef; a dywedodd wrth Laban, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud â mi? Onid am Rachel y gweithiais? Pam y twyllaist fi?”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 29