Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 29:12-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yna dywedodd Jacob wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca; rhedodd hithau i ddweud wrth ei thad.

13. Pan glywodd Laban am Jacob, mab ei chwaer, rhedodd i'w gyfarfod, a'i gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag ef i'w dŷ. Adroddodd yntau'r cwbl wrth Laban,

14. a dywedodd Laban wrtho, “Yn sicr, fy asgwrn a'm cnawd wyt ti.” Ac arhosodd gydag ef am fis.

15. Yna dywedodd Laban wrth Jacob, “Pam y dylit weithio imi am ddim, yn unig am dy fod yn nai imi? Dywed i mi beth fydd dy gyflog?”

16. Yr oedd gan Laban ddwy ferch; enw'r hynaf oedd Lea, ac enw'r ieuengaf Rachel.

17. Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond yr oedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth.

18. Hoffodd Jacob Rachel, a dywedodd, “Fe weithiaf i ti am saith mlynedd am Rachel, dy ferch ieuengaf.”

19. Dywedodd Laban, “Gwell gennyf ei rhoi i ti nag i neb arall; aros gyda mi.”

20. Felly gweithiodd Jacob saith mlynedd am Rachel, ac yr oeddent fel ychydig ddyddiau yn ei olwg am ei fod yn ei charu.

21. Yna dywedodd Jacob wrth Laban, “Daeth fy nhymor i ben; rho fy ngwraig imi, er mwyn imi gael cyfathrach â hi.”

22. Casglodd Laban holl bobl y lle at ei gilydd, a gwnaeth wledd.

23. Ond gyda'r hwyr cymerodd ei ferch Lea a mynd â hi at Jacob; cafodd yntau gyfathrach â hi.

24. Ac yr oedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea yn forwyn.

25. Pan ddaeth y bore, gwelodd Jacob mai Lea oedd gydag ef; a dywedodd wrth Laban, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud â mi? Onid am Rachel y gweithiais? Pam y twyllaist fi?”

26. Dywedodd Laban, “Nid yw'n arfer yn ein gwlad ni roi'r ferch ieuengaf o flaen yr hynaf.

27. Gorffen yr wythnos wledd gyda hon, a rhoir y llall hefyd iti am weithio imi am dymor o saith mlynedd arall.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 29