Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 26:9-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yna galwodd Abimelech ar Isaac, a dweud, “Y mae'n amlwg mai dy wraig yw hi; pam y dywedaist, ‘Fy chwaer yw hi’?” Dywedodd Isaac wrtho, “Am imi feddwl y byddwn farw o'i hachos hi.”

10. Dywedodd Abimelech, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni? Hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig, ac i ti ddwyn euogrwydd arnom.”

11. Felly rhybuddiodd Abimelech yr holl bobl a dweud, “Lleddir y sawl a gyffyrdda â'r gŵr hwn neu â'i wraig.”

12. Heuodd Isaac yn y tir hwnnw, a medi'r flwyddyn honno ar ei ganfed, a bendithiodd yr ARGLWYDD ef.

13. Llwyddodd y gŵr, a chynyddodd nes dod yn gyfoethog iawn.

14. Yr oedd yn berchen defaid ac ychen, a llawer o weision, fel bod y Philistiaid yn cenfigennu wrtho.

15. Caeodd y Philistiaid yr holl bydewau a gloddiodd y gweision yn nyddiau ei dad Abraham a'u llenwi â phridd,

16. a dywedodd Abimelech wrth Isaac, “Dos oddi wrthym, oherwydd aethost yn gryfach o lawer na ni.”

17. Felly ymadawodd Isaac oddi yno, a gwersyllodd yn nyffryn Gerar ac aros yno.

18. Ac ailgloddiodd Isaac y pydewau dŵr a gloddiwyd yn nyddiau ei dad Abraham, ac a gaewyd gan y Philistiaid ar ôl marw Abraham; a galwodd hwy wrth yr un enwau â'i dad.

19. Ond pan gloddiodd gweision Isaac yn y dyffryn, a chael yno ffynnon o ddŵr yn tarddu,

20. bu cynnen rhwng bugeiliaid Gerar a bugeiliaid Isaac, a dywedasant, “Ni biau'r dŵr.” Felly enwodd y ffynnon Esec, am iddynt godi cynnen ag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 26